Coleg Gwent English

Ymgeisio ac Ymrestru yn Coleg Gwent

Mae’r broses ymgeisio yn Coleg Gwent wedi’i chynllunio i fod mor hawdd ei llywio â phosibl.

Mae dewis y lefel cwrs gywir yn hanfodol. Cymerwch gipolwg ar y canllaw i ddeall beth yw ystyr y gwahanol lefelau.

Yna, darllenwch drwy’r prosbectws i benderfynu pa gwrs, lefel a champws sy’n addas ar gyfer y dysgwr.

Ar ôl penderfynu, ewch drwy’r camau ymgeisio ar y brif wefan.

Campysau a Teithiau 360
Prosbectws
Prosbectws

Lawrlwytho prosbectws

Os oes well gennych chi gael golwg drwy gopi personol yna dilynwch y ddolen i lawrlwytho ein prosbectws diweddaraf.

Lawrlwytho prosbectws
Digwyddiadau Agored
Open event crowd

Drwy gydol y flwyddyn, mae Coleg Gwent yn cynnal sawl digwyddiad agored, wyneb yn wyneb ac ar-lein, lle mae darpar ddysgwyr yn cael gwahoddiad i ddod draw i un o’r campysau i gael ymdeimlad o’r coleg.

Yn y digwyddiadau hyn, bydd cynrychiolwyr o bob un o’r adrannau a’r cyrsiau wrth law i ateb holl gwestiynau dysgwyr, rhieni, gwarchodwyr a gweithwyr cymorth am y coleg a’r cyrsiau.

Bydd sgyrsiau ac arddangosiadau ymarferol yn cael eu cynnal, yn ogystal â chyfle i gael profiad ymarferol yn y gwahanol adrannau galwedigaethol.

Digwyddiadau Agored Rhithiol – llwyfan 24/7

Mae’r llwyfan ar-leinar gael drwy’r amser. Felly cymerwch gip ar adeg sy’n gyfleus i chi.

Gwybodaeth am ddigwyddiadau agored
Cyrsiau

Rhywbeth i bawb

Mae Coleg Gwent yn falch o gynnig ystod eang o gyrsiau ar bob lefel. Mae gan bob campws naws ac ymdeimlad unigryw felly chwiliwch am y campws sy’n cynnig y pwnc sydd o ddiddordeb i’r dysgwr. Boed yn gyrsiau Safon Uwch, BTEC, AU neu unrhyw beth arall, mae rhywbeth at ddant pawb.

Dewch o hyd i gwrs
Sgiliau Byw'n Annibynnol (ILS)

Mae gan Coleg Gwent adran ILS ragorol ar bob campws, sy’n ceisio cefnogi dysgwyr i ddatblygu’r holl sgiliau angenrheidiol ar gyfer byw’n annibynnol o fewn cymdeithas. Mae enghreifftiau yn cynnwys:

  • Rheoli arian
  • Coginio a glanhau
  • Cynllunio gyrfaoedd ac ymgeisio am swyddi
  • Meithrin gwytnwch a hunan-barch

Mae gan bob campws ardal benodedig, ar wahân, gyda staff gwybodus a phrofiadol i gefnogi datblygiad dysgwyr.

Rhagor o wybodaeth
Egluro'r Lefelau a Sgoriau Asesiadau

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae symud wedi bod tuag at newid y ffordd mae addysgwyr yn trafod lefelau cyrsiau a sgoriau asesiadau. Yn y pen draw, dyma sut fydd pawb yn cyfeirio at gyrsiau a sgoriau, ond gall fod yn ddryslyd yn ystod y broses interim hon. Efallai y byddwch yn clywed pobl yn trafod cyrsiau ar wahanol lefelau, ond ddim yn siŵr sut mae’r rhain yn berthnasol i chi. Bydd y canllaw hwn yn rhoi syniad i chi o ystyr y cyrsiau a lefelau a sut gall sgoriau arholiadau neu asesiadau gyfateb i lefel cwrs.

Lefel Cymhwyster Lefel swydd
7 Gradd Meistr / Doethuriaeth NVQ 5 Gweithiwr proffesiynol siartredig
6 Gradd Anrhydedd Prentisiaeth
Uwch NVQ 4
5 Gradd sylfaen, HND Diploma mewn
Addysg Uwch
Gweithiwr proffesiynol ym maes rheoli
4 HNC Tystysgrif Addysg Uwch
3 Diploma Estynedig Lefel 3 3 Safon Uwch Uwch
Brentisiaeth
NVQ 3
Technegydd
uwch,
Goruchwyliwr
medrus
Diploma Lefel 3 2 Safon Uwch
Diploma Atodol Lefel 3 1 Safon Uwch
Tystysgrif Lefel 3 1 Safon UG
2 Diploma Lefel 2 4 TGAU (A*-C) Prentisiaeth
NVQ2
Gweithredydd
lled-fedrus
Tystysgrif Estynedig Lefel 2 3 TGAU (A*-C)
Tystysgrif Lefel 2 2 TGAU (A*-C)
1 Tystysgrif neu Ddiploma Lefel
1
TGAU (D-G) Cynllun hyfforddiant NVQ1 Gweithredydd
Mynediad Sgiliau Sylfaenol / Sgiliau Bywyd
Dysgu galwedigaethol Dysgu academaidd Dysgu seiliedig
ar waith
Mae rhagor o wybodaeth ar gael (GOV.UK)
Sut i ymgeisio am gwrs

Mae Coleg Gwent wedi gwneud y broses ymgeisio mor rhwydd i’w defnyddio â phosib i ddysgwyr ac unrhyw un sy’n helpu’r dysgwr i wneud cais am y cwrs.

  1. Unwaith mae’r dysgwr wedi dewis cwrs, y cam cyntaf yw cwblhau ffurflen gais ar-lein. O’r brif wefan cliciwch y botwm ‘Gwnewch Gais Nawr’ neu dilynwch y ddolen https://www.coleggwent.ac.uk/cy/apply-now
  2. Yn ddibynnol ar y cwrs yr ymgeiswyd amdano, bydd cynnig yn cael ei wneud. Gallai hyn gymryd wythnosau felly byddwch yn amyneddgar. Bydd hyn naill ai drwy’r post neu e-bost felly pwysleisiwch i’r dysgwr bwysigrwydd cadw llygad ar negeseuon e-bost (gwnewch yn siŵr nad cyfeiriad e-bost yr ysgol yw’r cyfeiriad a nodir gan fod y cyfrifon yn cael eu dileu yn achlysurol).
  3. Unwaith y bydd cynnig wedi’i wneud gall y dysgwr fynd ar-lein (bydd y manylion ar lythyr neu e-bost y cynnig) i dderbyn y cynnig.
  4. Anfonir manylion yn ystod yr haf ynghylch pryd a lle i ymrestru. Dyma pryd caiff y dysgwr gyfle i gasglu cardiau adnabod, cwrdd â’r tiwtoriaid a chael blas ar y coleg. Os oes unrhyw broblemau neu newidiadau, rhowch alwad i’r coleg ar 01495 333 777 a gofynnwch am dderbyniadau.
  5. Dechreuwch yn y coleg ar y diwrnod a nodwyd yn ystod yr ymrestriad!
Ymgeisiwch Nawr!
Application process

Cymorth yn Coleg Gwent

Mae llawer o gymorth ar gael yn Coleg Gwent i ddysgwyr ar bob lefel.

Rhagor o wybodaeth

Cyngor ac Arweiniad Allanol

Mae Coleg Gwent yn gweithio ar y cyd â llawer o sefydliadau i ddarparu’r cymorth gorau posibl i’n dysgwyr.

Rhagor o wybodaeth
Yn nôl i’r top