Cymorth yn Coleg Gwent
Mae’r coleg yn cynnig cymorth mewn sawl ffordd i’w ddysgwyr ar draws yr holl gyrsiau a champysau. Mae’r rhain yn cynnwys: Ysbrydoli i Gyflawni, Tiwtorialau wythnosol gyda thiwtor personol, Llyfrgelloedd gyda staff gwybodus, Meddalwedd hygyrchedd, Trefniadau Mynediad ar gyfer Arholiadau, Ardaloedd tawel, Tîm ADY ar draws y coleg, Cymorth gyda Mathemateg a Saesneg.
- Cefnogaeth Bontio
- Cymorth yn Coleg Gwent
Mae Coleg Gwent wedi ymrwymo i gefnogi ei ddysgwyr drwy gydol y broses bontio ac ar ôl ymrestru.
Rydym yma i helpu pawb i ddysgu a chyrraedd eu potensial llawn yn Coleg Gwent. Felly, rydym yn cynnig amrywiaeth eang o wasanaethau cymorth cyffredinol i bob dysgwr, gan gynnwys:
- Hwb Cymorth
- Tiwtorialau wythnosol gyda thiwtor personol
- Llyfrgelloedd gyda staff gwybodus
- Meddalwedd hygyrchedd
- Trefniadau Mynediad ar gyfer Arholiadau
- Ardaloedd tawel
- Tîmau ADY
Mae’r coleg yn cynnig ystod eang o gymorth cyffredinol i helpu pawb i ddysgu a chyrraedd eu potensial llawn yn Coleg Gwent. Fodd bynnag, rydym yr un mor ymrwymedig i gefnogi’r dysgwyr hynny nad oes modd bodloni eu hanghenion drwy’r cymorth cyffredinol sy’n cael ei gynnig.
Mae gan y coleg dîm ADY pwrpasol sydd ar gael i sicrhau bod yr holl anghenion dysgu’n cael eu bodloni, yn ogystal â chefnogi’r holl ddysgwyr i drosglwyddo’n ddidrafferth o’r ysgol i’r coleg.
Cymorth ar bob campws
Mae’r hwb cymorth yn Coleg Gwent yn cael ei adnabod ar hyn o bryd fel Cymorth CG. Mae’r tîm yn Cymorth CG wrth law i gefnogi dysgwyr gyda phob agwedd ar fywyd coleg ac academaidd. Galwch heibio am sgwrs i weld pa gymorth y gallwn ei gynnig.
Mae Coleg Gwent wedi ymrwymo i helpu dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau a Gwybodaeth, yn ogystal â’u cefnogi a magu eu hyder drwy gydol eu cyfnod yn y coleg.
Rydym yn datblygu ein defnydd o Dechnoleg Gynorthwyol yn barhaus yn y coleg, ac yn ceisio dod o hyd i ffyrdd o wella’r profiad dysgu.
Mae gan bob cyfrifiadur myfyrwyr feddalwedd hygyrchedd, yn cynnwys:
- Vu-Bar – bar ar y sgrin sy’n ddefnyddiol i ddysgwyr dyslecsig sy’n neidio dros linellau neu’n cwympo o un llinell i’r llall wrth ddarllen.
- Thunder Screenreader – yn helpu dysgwyr sy’n ddall neu’n rhannol ddall i ddefnyddio cyfrifiadur lle mae’r dangosydd yn cael ei optimeiddio ar gyfer hygyrchedd hawdd.
- ssOverlay – troshaen lliw ar gyfer y sgrin lle gellir addasu’r lefelau lliw a thryloywder i weddu i’r dysgwr.
- Balabolka – rhaglen Testun i Leferydd lle gallwch chi gopïo a gludo testun i mewn i Balabolka a bydd y rhaglen yn darllen y testun yn ôl i chi.
- Microsoft Immersive Reader – technoleg gynorthwyol Testun i Leferydd, ar gael yn Word, Teams ac One Note, ac ar gael yn PowerPoint yn fuan.
- Apiau EdTech megis Canvas a Wakelet – edrychwch am yr eicon Immersive Reader.
- Gallwch gael mynediad at e-lyfrau technoleg gynorthwyol drwy’r Porth Dysgwr – dangosfyrddau ‘Sut I’ a ‘Gwybodaeth’. Mae gan yr e-lyfrau swyddogaeth ‘Darllenwch i mi’.
Gall symud o’r ysgol i’r coleg, newid cyrsiau o fewn coleg neu symud o un campws i gampws arall fod yn frawychus a chynyddu lefelau gorbryder.
Mae cefnogaeth bontio ar gael i’r holl ddysgwyr, gyda digwyddiadau agored a dyddiau blasu’n cael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn. Yn Coleg Gwent, rydym yn cynnig cefnogaeth bontio unigryw er mwyn helpu pob un dysgwr i drosglwyddo’n ddidrafferth a heb straen.
Ar gyfer unrhyw ddysgwyr a all fod ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, rydym yn eich annog i gysylltu ag aelod o’r tîm ADY er mwyn i ni gael sgwrs gyda chi cyn ichi gyrraedd.
Ymgeisio ac Ymrestru yn Coleg Gwent
Mae dod yn fyfyriwr yn Coleg Gwent yn broses syml i ddysgwyr ac unrhyw un sy’n cefnogi dysgwr.
Cyngor ac Arweiniad Allanol
Mae Coleg Gwent yn gweithio ar y cyd â llawer o sefydliadau i ddarparu’r cymorth gorau posibl i’n dysgwyr.