Ymgeisio ac Ymrestru yn Coleg Gwent
Mae’r broses ymgeisio yn Coleg Gwent wedi’i chynllunio i fod mor hawdd ei llywio â phosibl.
Mae dewis y lefel cwrs gywir yn hanfodol. Cymerwch gipolwg ar y canllaw i ddeall beth yw ystyr y gwahanol lefelau.
Yna, darllenwch drwy’r prosbectws i benderfynu pa gwrs, lefel a champws sy’n addas ar gyfer y dysgwr.
Ar ôl penderfynu, ewch drwy’r camau ymgeisio ar y brif wefan.
- Cefnogaeth Bontio
- Ymgeisio ac Ymrestru yn Coleg Gwent
Mae gan Coleg Gwent bum campws ar draws de-ddwyrain Cymru
Lawrlwytho prosbectws
Os oes well gennych chi gael golwg drwy gopi personol yna dilynwch y ddolen i lawrlwytho ein prosbectws diweddaraf.
Drwy gydol y flwyddyn, mae Coleg Gwent yn cynnal sawl digwyddiad agored, wyneb yn wyneb ac ar-lein, lle mae darpar ddysgwyr yn cael gwahoddiad i ddod draw i un o’r campysau i gael ymdeimlad o’r coleg.
Yn y digwyddiadau hyn, bydd cynrychiolwyr o bob un o’r adrannau a’r cyrsiau wrth law i ateb holl gwestiynau dysgwyr, rhieni, gwarchodwyr a gweithwyr cymorth am y coleg a’r cyrsiau.
Bydd sgyrsiau ac arddangosiadau ymarferol yn cael eu cynnal, yn ogystal â chyfle i gael profiad ymarferol yn y gwahanol adrannau galwedigaethol.
Digwyddiadau Agored Rhithiol – llwyfan 24/7
Mae’r llwyfan ar-leinar gael drwy’r amser. Felly cymerwch gip ar adeg sy’n gyfleus i chi.
Rhywbeth i bawb
Mae Coleg Gwent yn falch o gynnig ystod eang o gyrsiau ar bob lefel. Mae gan bob campws naws ac ymdeimlad unigryw felly chwiliwch am y campws sy’n cynnig y pwnc sydd o ddiddordeb i’r dysgwr. Boed yn gyrsiau Safon Uwch, BTEC, AU neu unrhyw beth arall, mae rhywbeth at ddant pawb.
Mae gan Coleg Gwent adran ILS ragorol ar bob campws, sy’n ceisio cefnogi dysgwyr i ddatblygu’r holl sgiliau angenrheidiol ar gyfer byw’n annibynnol o fewn cymdeithas. Mae enghreifftiau yn cynnwys:
- Rheoli arian
- Coginio a glanhau
- Cynllunio gyrfaoedd ac ymgeisio am swyddi
- Meithrin gwytnwch a hunan-barch
Mae gan bob campws ardal benodedig, ar wahân, gyda staff gwybodus a phrofiadol i gefnogi datblygiad dysgwyr.
Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae symud wedi bod tuag at newid y ffordd mae addysgwyr yn trafod lefelau cyrsiau a sgoriau asesiadau. Yn y pen draw, dyma sut fydd pawb yn cyfeirio at gyrsiau a sgoriau, ond gall fod yn ddryslyd yn ystod y broses interim hon. Efallai y byddwch yn clywed pobl yn trafod cyrsiau ar wahanol lefelau, ond ddim yn siŵr sut mae’r rhain yn berthnasol i chi. Bydd y canllaw hwn yn rhoi syniad i chi o ystyr y cyrsiau a lefelau a sut gall sgoriau arholiadau neu asesiadau gyfateb i lefel cwrs.
Lefel | Cymhwyster | Lefel swydd | ||
---|---|---|---|---|
7 | Gradd Meistr / Doethuriaeth | NVQ 5 | Gweithiwr proffesiynol siartredig | |
6 | Gradd Anrhydedd | Prentisiaeth Uwch NVQ 4 |
||
5 | Gradd sylfaen, HND | Diploma mewn Addysg Uwch |
Gweithiwr proffesiynol ym maes rheoli | |
4 | HNC | Tystysgrif Addysg Uwch | ||
3 | Diploma Estynedig Lefel 3 | 3 Safon Uwch | Uwch Brentisiaeth NVQ 3 |
Technegydd uwch, Goruchwyliwr medrus |
Diploma Lefel 3 | 2 Safon Uwch | |||
Diploma Atodol Lefel 3 | 1 Safon Uwch | |||
Tystysgrif Lefel 3 | 1 Safon UG | |||
2 | Diploma Lefel 2 | 4 TGAU (A*-C) | Prentisiaeth NVQ2 |
Gweithredydd lled-fedrus |
Tystysgrif Estynedig Lefel 2 | 3 TGAU (A*-C) | |||
Tystysgrif Lefel 2 | 2 TGAU (A*-C) | |||
1 | Tystysgrif neu Ddiploma Lefel 1 |
TGAU (D-G) | Cynllun hyfforddiant NVQ1 | Gweithredydd |
Mynediad | Sgiliau Sylfaenol / Sgiliau Bywyd | |||
Dysgu galwedigaethol | Dysgu academaidd | Dysgu seiliedig ar waith |
Mae Coleg Gwent wedi gwneud y broses ymgeisio mor rhwydd i’w defnyddio â phosib i ddysgwyr ac unrhyw un sy’n helpu’r dysgwr i wneud cais am y cwrs.
- Unwaith mae’r dysgwr wedi dewis cwrs, y cam cyntaf yw cwblhau ffurflen gais ar-lein. O’r brif wefan cliciwch y botwm ‘Gwnewch Gais Nawr’ neu dilynwch y ddolen https://www.coleggwent.ac.uk/cy/apply-now
- Yn ddibynnol ar y cwrs yr ymgeiswyd amdano, bydd cynnig yn cael ei wneud. Gallai hyn gymryd wythnosau felly byddwch yn amyneddgar. Bydd hyn naill ai drwy’r post neu e-bost felly pwysleisiwch i’r dysgwr bwysigrwydd cadw llygad ar negeseuon e-bost (gwnewch yn siŵr nad cyfeiriad e-bost yr ysgol yw’r cyfeiriad a nodir gan fod y cyfrifon yn cael eu dileu yn achlysurol).
- Unwaith y bydd cynnig wedi’i wneud gall y dysgwr fynd ar-lein (bydd y manylion ar lythyr neu e-bost y cynnig) i dderbyn y cynnig.
- Anfonir manylion yn ystod yr haf ynghylch pryd a lle i ymrestru. Dyma pryd caiff y dysgwr gyfle i gasglu cardiau adnabod, cwrdd â’r tiwtoriaid a chael blas ar y coleg. Os oes unrhyw broblemau neu newidiadau, rhowch alwad i’r coleg ar 01495 333 777 a gofynnwch am dderbyniadau.
- Dechreuwch yn y coleg ar y diwrnod a nodwyd yn ystod yr ymrestriad!
Cymorth yn Coleg Gwent
Mae llawer o gymorth ar gael yn Coleg Gwent i ddysgwyr ar bob lefel.
Cyngor ac Arweiniad Allanol
Mae Coleg Gwent yn gweithio ar y cyd â llawer o sefydliadau i ddarparu’r cymorth gorau posibl i’n dysgwyr.